Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 27 Medi 2018
Amser:
09.10 -
12.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5137
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Jane Hutt AC Nick Ramsay AC David Rees AC Llyr Gruffydd AC Helen Mary Jones AC |
Tystion: |
Andy Fraser, Llywodraeth Cymru Julian Revell, Llywodraeth Cymru Katharine Pottinger, CThEM Jackie McGeehan, CThEM David Eiser, Cynghorydd i Bwyllgor Cyllid Senedd yr Alban |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Yn dilyn etholiad ar 19 Medi 2018, croesawodd Llyr Gruffydd AC, fel Cadeirydd dros dro, yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC. Roedd Llyr Gruffydd AC yn bresennol ar ei ran.
1.3 Mynychodd Helen Mary Jones AC y cyfarfod gyda chaniatâd y Cadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.
1.4 Croesawodd y Cadeirydd dros dro Dr Ed Poole fel Ymgynghorydd Arbenigol i'r Pwyllgor yn ystod ei waith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.
2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft gyda rhai mân newidiadau.
3.1 Cafodd y Pwyllgor frîff technegol ar Gyfradd Treth Incwm Cymru gan:
· Katharine Pottinger, Pennaeth Treth Incwm Datganoledig, CThEM;
· Jackie McGeehan, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Treth Incwm, CThEM;
· Andy Fraser, Pennaeth y Strategaeth Dreth, Trysorlys Cymru;
· Julian Revell, Pennaeth Dadansoddiad Cyllidol, Trysorlys Cymru.
4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar oblygiadau datganoli treth incwm yn rhannol i graffu ar y gyllideb gan David Eiser, Ymgynghorydd i Bwyllgor Cyllid Senedd yr Alban a Chymrawd y Ganolfan ar Newid Cyfansoddiadol.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y briffiau.